SL(6)578 – Gorchymyn Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (Diwygio Atodlen 6) 2025
Cefndir a diben
Mae Atodlen 6 i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn nodi’r cyrff sy’n agored i orfod cydymffurfio â safonau’r Gymraeg. Mae’r Gorchymyn hwn yn mewnosod y cyrff ychwanegol a ganlyn yn Atodlen 6:
§ Panel Dyfarnu Cymru
§ Y Comisiwn Ffiniau i Gymru
§ Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Nid yw’r Gorchymyn hwn ei hun yn gosod unrhyw ddyletswyddau o ran y Gymraeg ar y cyrff hynny, ond mae’n caniatáu i Weinidogion Cymru, drwy reoliadau,[1] wneud y safonau a ganlyn o ran y Gymraeg yn benodol gymwys i’r cyrff hynny:
§ Safonau cyflenwi gwasanaethau
§ Safonau llunio polisi
§ Safonau gweithredu
§ Safonau cadw cofnodion
Gweithdrefn
Cadarnhaol Drafft
Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Gorchymyn gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Gorchymyn oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Gorchymyn drafft.
Materion technegol: craffu
Nodir y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol
Mae'r Gorchymyn hwn yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol. Fel y nodir gennym uchod, mae hyn yn golygu bod yn rhaid gosod drafft o’r Gorchymyn gerbron y Senedd, a dim ond os bydd y Senedd yn cymeradwyo’r Gorchymyn drafft y gellir gwneud y Gorchymyn.
Fodd bynnag, mae rhagymadrodd y Gorchymyn drafft hwn yn cynnwys y testun a ganlyn (ein pwyslais ni):
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 35 a 38 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, ac wedi cael cymeradwyaeth Senedd Cymru yn unol ag adran 150(2) o’r Mesur hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Mae’r geiriad hwn yn awgrymu mai Gweinidogion Cymru neu’r pwerau galluogi sy’n cael cymeradwyaeth y Senedd. Fodd bynnag, y Gorchymyn drafft sy'n cael cymeradwyaeth y Senedd.
Nid yw’n glir pam y dewisodd Llywodraeth Cymru y geiriad hwn yn y rhagymadrodd ac nid y geiriad safonol, cydnabyddedig a geir mewn offerynnau cadarnhaol drafft eraill sy’n ei gwneud yn glir mai’r offeryn drafft y mae angen ei gymeradwyo gan y Senedd. Er enghraifft, mae Rheoliadau Safonau Marchnata Wyau Maes (Diwygio) (Cymru) 2025[2] yn cynnwys y geiriad clir a ganlyn:
Yn unol ag adran 50(6) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb Llywodraeth Cymru
Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r pwynt adrodd.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
4 Chwefror 2025